Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 26 Tachwedd 2020
Amser:
13.30 -
17.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6526
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Jim Evans, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru Huw Thomas, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Jemma Bere, Cadwch Gymru’n Daclus Michele Hunt, RSPB Cymru Alexander Phillips, WWF Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: Sesiwn dystiolaeth 1 - Y sector pysgodfeydd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru.
3 Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: sesiwn dystiolaeth 2 - Y sector amaethyddol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru.
4 Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: sesiwn dystiolaeth 3 - Y sector amgylcheddol
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cadwch Cymru’n Daclus, Cronfa Natur Fyd-eang (WWF) Cymru, ac Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU
5.2 Ymateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i'r llythyr gan y Cadeirydd mewn perthynas â'r Fframwaith Sylweddau Peryglus Drafft.
5.3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
5.4 Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol
5.5
Llythyr gan
Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad
mewn perthynas â Rheoliadau Cynhyrchion Amaethyddol, Bwyd a
Diod (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE)
2020
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd - Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2, 3 and 4.
8 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.